Mi dderbyniais bwt o lythyr,nOddiwrth Mistar Jones o'r Brithdir,nAc yn hwnnw'r oedd o'n gofynnAwn i hefo Deio o Dywyn.nnFe gychwynnwyd ar nos WenernCyrraedd i Fawddwy erbyn swper;nFe gaed yno uwd a menynnWrth fynd hefo Deio i Dywyn.nnDod ymlaen ac heibio'r DdinasnBara a chaws a chwrw yng Ngwanas,nPan gyrhaeddsom DalyllynnWrth fynd hefo Deio i Dywyn.nnDod ymlaen at AberygynolwynnAc ymlaen at Graig y Deryn:nPan gyrhaedd'som Ynys Maengwyn.nGwaeddai Deio, ‘Dacw Dywyn!'nnOs byddai'n byw un flwyddyn etonMynna'n helaeth iawn gynilo-nMi ga'i bleser anghyffredinnWrth fynd efo Deio i Dywyn!nn